Huw JohnHUGHESDymuna Huw a Gwenda ddiolch o galon am y gynhaliaeth a gafwyd gan deulu a llu o gyfeillion Huw John yn ystod ei waeledd a wynebodd yn siriol a di-gŵyn. Diolch yn arbennig i'r Parchedigion J. Ronald Williams, Geraint Tudur a John Gwilym Jones am ein cynnal a'n cysuro dros y misoedd diwethaf, ac am y gwasanaeth ysbrydoledig yn amlosgfa Bangor. Diolch i Iolo (Roberts & Owen) a'r criw am eu cyfeillgarwch a'r trefniadau trylwyr ac urddasol ar ddydd yr angladd. Diolch i Mrs Mona Barton am ei gwasanaeth wrth yr organ. Diolch i Richard a Iola a'r criw yn Pant Du am eu croeso cynnes ac am yr arlwy ardderchog. Diolch i'r doctoriaid, nyrsys ardal a lliniarol a'r tîm o Ysbyty Eryri am eu gofal o Huw yn ei ddyddiau olaf. Mae casgliad sylweddol wedi dod i law a fydd yn mynd tuag at 'Ymchwil Canser Cymru, Bangor'. Diolch i bawb.
Keep me informed of updates